Mae’r heddlu’n chwilio am unigolyn yn dilyn marwolaeth bachgen blwydd oed wedi digwyddiad sydd wedi gadael merch flwydd oed mewn cyflwr difrifol.
Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yn ardal Finsbury Park yng ngogledd Llundain am 11.10pm neithiwr.
Cafodd y plant eu cludo i’r ysbyty yn nwyrain Llundain, lle bu farw’r bachgen yn ddiweddarach.
Dydy’r bachgen ddim wedi cael ei enwi eto, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.
Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.