Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Ffarmers am oddeutu 8 o’r gloch y bore ma.

Cafwyd hyd i gorff dyn yn ei 50au mewn fan oedd mewn rhyd.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.