Hofrennydd Gwylwyr y Glannau arfordir Iwerddon Llun: Air Midwest
Mae hofrennydd Gwylwyr y Glannau arfordir Iwerddon, gyda phedwar o griw ar ei bwrdd, wedi mynd ar goll ger gorllewin Iwerddon.

Roedd yr hofrennydd yn ceisio helpu hofrennydd arall oedd wedi bod yn rhan o ymgyrch i achub dyn o gwch bysgota.

Fe gollwyd y cysylltiad gyda’r hofrennydd tua 1yb ddydd Mawrth.

Mae ymdrech fawr ar y gweill oddi ar arfordir Co Mayo i chwilio am yr hofrennydd o Ddulyn.

Cafodd un aelod o’r criw ei achub o’r mor tua 7yb ac mae’n debyg ei fod mewn cyflwr difrifol.  Mae wedi cael ei gludo i’r ysbyty ac mae’r chwilio’n parhau am y tri aelod arall o’r criw.