Llong fferi Herald of Free Enterprise, Zeebrugge (Llun: PA/Wire)
Mae gwasanaethau coffa’n cael eu cynnal heddiw i gofio’r trychineb morol 30 mlynedd yn ôl pan drodd llong drosodd yn Zeebrugge yng Ngwlad Belg gan ladd 193 o bobol.

Roedd y fferi o Brydain, Herald of Free Enterprise, yn teithio i gyfeiriad Dofr ar 6 Mawrth 1987 pan drodd drosodd.

Fe wnaeth ymchwiliad cyhoeddus gadarnhau ei bod wedi gadael Gwlad Belg gyda’u drysau bwa ar agor yn golygu fod deciau’r ceir wedi llifogi, a bod yr aelod oedd yn gyfrifol am y drysau yn cysgu ar y pryd.

Gwasanaeth coffa

Mae gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn Dofr heddiw, gyda gwasanaethau hefyd yn Zeebrugge.

Mae nifer wedi’u cydnabod am eu gwaith achub yn ystod y trychineb gan gynnwys y cyn-blismon Andrew Parker wnaeth ymddwyn fel pont wrth i’w deulu a thua 20 o deithwyr gerdded drosto i ddiogelwch.

Ym mis Hydref 1987, cafwyd dyfarniad o ladd anghyfreithlon gydag achos o ddynladdiad yn dechrau yn 1990 yn erbyn wyth diffynnydd gan gynnwys y cwmni llongau a thri o’r cyfarwyddwyr.

Ond fe ddaeth yr achos i’w derfyn yn fuan wedi hynny wedi i’r barnwr gyfarwyddo’r rheithgor i’w cael yn ddieuog.