Llys y Goron Caerdydd
Mae disgwyl i ddyn, 24 oed, sydd wedi’i gael yn euog o lofruddio’i gariad, gael ei ddedfrydu heddiw.

Fe fydd Jordan Matthews yn cael ei ddedfrydu gan y barnwr Nicola Davies yn Llys y Goron Caerdydd a hynny’n dilyn achos sydd wedi para deg diwrnod.

Cafwyd Jordan Matthews yn euog o lofruddio Xixi Bi, 24 oed, yn eu cartref yn Llandaf, Caerdydd ar Awst 19 y llynedd.

 

Merch ‘alluog’

 

Yn Llys y Goron Caerdydd ddoe disgrifiodd ei brawd hi, Zexun Bi, fel merch “alluog” oedd â’i “holl fywyd o’i blaen hi.”

Cafodd Xixi Bi ei geni yn China a’i haddysgu yn y Deyrnas Unedig ers yr oedd hi’n 15 oed.

Roedd hi’n fyfyrwraig ôl raddedig ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac wedi cwrdd â Jordan Matthews ar-lein ym mis Ebrill 2015, ac wedi symud i mewn gyda’i gilydd.

Roedd ymchwiliad post-mortem yn dangos iddi ddioddef anafiadau i’r rhan fwyaf o’i chorff ynghyd ag arwyddion o anafiadau blaenorol.