Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn o Fae Colwyn sydd wedi bod ar goll ers dechrau’r mis.

Cafodd Stephen Christopher Carson, 46 oed, ei weld diwethaf ar Chwefror 3.

Mae’r heddlu wedi cynnal ymchwiliadau o gwmpas Bae Colwyn a’r Rhyl yn ogystal â Crewe a Swydd Gaerllion lle mae’r gŵr yn dod yn wreiddiol.

Disgrifiodd yr heddwas Peter Colley o Orsaf Heddlu Bae Colwyn y gŵr yn 5’8 o daldra, maint canolig ac yn foel.

“Mae hefyd yn cerdded gydag ychydig o gloffni…” ychwanegodd.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy’r we, ffonio 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 17445.