Mae dyn 89 oed a gafodd ei daro gan dacsi yn Lerpwl wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau.

Cafodd y gyrrwr 42 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, o yrru tra ei fod e dros y terfyn ar gyfer cyffuriau presgripsiwn ac o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus.

Roedd Andrew Oakden yn cerdded ar y stryd pan gafodd ei daro am oddeutu 11.25pm neithiwr.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd gyrrwr y tacsi’n wynebu rhagor o gyhuddiadau, ac mae e wedi cael ei ryddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.