Mae gyrrwr tacsi wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac o yrru tros y terfyn ar gyfer cyffuriau presgripsiwn, ar ôl taro dyn oedrannus yn Lerpwl.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11.25pm neithiwr wedi’r gwrthdrawiad rhwng y tacsi a cherddwr.

Cafodd y cerddwr, sydd yn ei 80au, ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ac mae e’n dal mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi apelio am wybodaeth.