Mae’r cyn-baffiwr Michael Watson wedi cael ei anafu yn dilyn ymosodiad tra roedd e’n teithio mewn car.

Cafodd Michael Watson, 51, ei lusgo o’i gar yn ystod yr ymosodiad yn Chingford yn nwyrain Llundain ddydd Iau.

Bu’n rhaid iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, ynghyd â’i ffrind Lennard Ballack.

Cafodd Michael Watson ei anafu’n ddifrifol ar ddiwedd ei yrfa yn ystod gornest yn erbyn Chris Eubank yn 1991, ac mae lle i gredu bod sylwedd wedi cael ei chwistrellu i’w lygaid yn ystod yr ymosodiad, cyn iddo gael ei lusgo o’r car.

Mae’r heddlu’n trin yr achos fel un o geisio dwyn y car, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.