Mae pedwar o bobol yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio llanc 17 oed yn Northampton ddydd Mawrth.
Cafodd bachgen 16 oed, dau fachgen 17 oed a dyn 18 oed eu harestio gan Heddlu Swydd Northampton ar amheuaeth o drywnau Liam Hunt i farwolaeth.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod y llanc wedi cael anafiadau difrifol i’w wddf.
Mae disgwyl i’r pedwar fynd gerbron ynadon yn Wellingborough heddiw.
Mae pumed llanc, sy’n 17 oed, hefyd wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio.