Malachi Halstead (Llun Heddlu Gwent)
Mae’r heddlu wedi croesawu penderfyniad barnwr i anfon dyn i garchar am 14 mlynedd am dorri bys dyn arall i ffwrdd.

Roedd Malachi Halstead, 35, o Gasnewydd, wedi ei gael yn euog o achosi niwed corfforol difrifol wrth ddial ar ddyn oedd wedi colli cyffuriau ac arian.

Yn ôl Heddlu Gwent, roedd y drosedd yn dangos yn glir beth oedd natur troseddu ar raddfa fawr.

‘Newid bywyd’

“Roedd Malachi Halstead wedi achosi niwed i newid bywyd y dioddefwr am yr hyn oedd i bob bwrpas yn drosedd fendeta,” meddai’r prif swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Eirian Williams.

Roedd Llys y Goron Casnewydd wedi clywed Malachi Halstead, sy’n DJ, a’r dioddefwr, Teerath Mann, wedi ceisio rhoi’r bai ar rywun o’r enw ‘Mr Biggs’.

Mewn gwirionedd, roedd Malachi Halstead wedi gyrru Teerath Mann i ardal unig yng Nghasnewydd a defnyddio twca cig i dorri ei fys i ffwrdd ac wedyn wedi brolio am hynny ar y cyfryngau cymdeithasol.

“R’yn ni wrth ein boddau fod y person arbennig o dreisgar yma wedi ei gael yn euog ac r’yn ni’n gobeithio y bydd y ddedfryd hir yma yn rhybudd i eraill,” meddai Eirian Williams.