Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ei wraig ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn car tu allan i archfarchnad.

Cafodd y dyn 42 oed ei arestio ym maes parcio Lidl yn ardal Tile Cross yn Birmingham toc cyn 5 y bore ddydd Llun.

Dywed yr heddlu ei bod yn ymddangos bod y ddynes wedi marw yn dilyn ymosodiad gydag arf tebyg i gyllell.

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n adolygu fideo o gamerâu teledu cylch cyfyng ac mae timau fforensig yn archwilio’r safle yn y maes parcio a chartref y cwpl.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.