Mae’r heddlu’n parhau i holi dyn 26 oed o Abertawe ar amheuaeth o droseddau brawychol.
Ddoe, cafodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr saith diwrnod ychwanegol i holi’r dyn.
Cafodd ei arestio o dan Adran 41 y Ddeddf Frawychiaeth yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Uned Gwrth-frawychiaeth ac Eithafiaeth Cymru ac Uned Gwrth-frawychiaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Mae’n cael ei holi mewn gorsaf heddlu yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Dywed yr heddlu nad yw’n peri perygl i’r cyhoedd ar hyn o bryd.