Llys y Goron Abertawe
Mae plismon wedi’i gyhuddo o “ddweud celwydd yn fwriadol” mewn datganiad i’r heddlu gan honni bod dyn wedi ymddwyn yn “hynod fygythiol”, clywodd llys heddiw.

Roedd y Cwnstabl David Norman, 52, wedi gwneud y datganiad ffug ar ôl cael ei alw i anghydfod rhwng cymdogion yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, ym mis Ionawr y llynedd clywodd Llys y Goron Abertawe.

Mae David Norman wedi’i gyhuddo o un cyhuddiad o weithredu mewn modd neu gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

dan gyhuddiad o weithredu gyda’r tuedd neu’r bwriad i wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn lluniad datganiad honedig ffug.

Dywedodd yr erlynydd  John Hipkin  bod David Norman wedi arestio Richard Roberts am drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Yn ei ddatganiad wedi hynny dywedodd y swyddog gyda Heddlu Dyfed Powys bod Richard Roberts wedi ymddwyn mewn modd  “hynod o ymosodol” pan gafodd ei arestio.

Teledu Cylch Cyfyng

Mae John Hipkin yn dadlau bod y disgrifiad yma o’r digwyddiad yn ffug gan fod sustem teledu cylch cyfyng a sain yng nghartref Richard Roberts.

Mae’r fideo teledu cylch cyfyng a gafodd  ei dangos i’r llys yn dangos Richard Roberts yn siarad heb godi ei lais.

Clywodd y llys bod Richard Roberts  wedi cael ei gadw yn y ddalfa am ddau ddiwrnod cyn cael ei ryddhau ar Ionawr 23, 2016 a chafodd pob cyhuddiad yn ei erbyn eu gollwng.

Cafodd David Norman, o Erddi Kensington, Aberdaugleddau, ei arestio a dywedodd mewn cyfweliad bod ei honiadau yn erbyn Richard Roberts wedi bod yn gamgymeriad a’i fod wedi bod yn wynebu problemau personol ar y pryd.

Ond mae’n gwadu ei fod wedi gwneud datganiad ffug yn fwriadol ac nad oedd wedi bwriadu ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r achos llys yn parhau.