Mae rhagor o blismyn wedi bod ar ddyletswydd ger ysgol gynradd yn Neganwy, Sir Conwy bore ma yn dilyn digwyddiad bore dydd Llun.

Roedd disgybl  9 oed yn cerdded i Ysgol Deganwy yn Ffordd Plas Newydd am tua 8.50yb ddydd Llun, 16 Ionawr pan gafodd ei stopio gan gar lliw arian. Daeth dau ddyn allan o’r car a gofyn iddo fynd i mewn i’r car.

Roedd y disgybl wedi anwybyddu’r dynion ac aeth ymlaen i’r ysgol gan adrodd y digwyddiad i’r staff.  Nid oedd y dynion wedi ceisio gafael yn y disgybl, ac nid oedan nhw wedi ei ddilyn i’r ysgol, ac ni chafodd unrhyw anaf.

‘Pryder i rieni’

Meddai’r Arolygydd lleol Kelly Isaacs yng Ngorsaf Heddlu Llandudno: “Mae’n amlwg y bydd y digwyddiad hwn o bryder mawr i’r gymuned leol ac yn benodol rhieni ac ysgolion lleol eraill.

“Mae ymholiadau’n cael eu cynnal i geisio adnabod y dynion a’r car ac mae’r disgybl yn cael ei holi gan swyddogion arbenigol er mwyn cael disgrifiad llawn o’r dynion.

“Hoffwn ofyn i unrhyw un fyddai’n gallu ein helpu ni gyda’r ymchwiliad hwn i gysylltu â’r Heddlu yn syth.  Yn y cyfamser hoffwn dawelu meddwl y gymuned leol bod popeth posibl yn cael ei wneud a bydd rhagor o batrolau yn cael eu cynnal yn yr ardal ac yn benodol o gwmpas amser cyrraedd a gadael yr ysgol.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar bobl i gysylltu â nhw drwy ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio’n fyw ar-lein http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx neu  ffonio’r Heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod RC1700 7107.