Jan Jedrzejewski Llun: Heddlu Gwent/PA
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo pedwar person o lofruddio dyn yng Nghasnewydd wythnos ddiwethaf.

Cafodd Jan Jedrzejewski ei  ganfod yn anymwybodol yn Stryd Keene yng Nghasnewydd am 11yh nos Iau, 12 Ionawr.

Cafodd Jan Jedrzejewski, 41 oed, a oedd yn dod o Gasnewydd, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd  pedwar o bobl – dyn 43 oed, dau ddyn 18 oed a bachgen 17 oed – eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Jan Jedrzejewski.

Maen nhw bellach wedi’u cyhuddo o’i lofruddio ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd bore dydd Mawrth, 17 Ionawr.