Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff gŵr sydd wedi bod ar goll am saith wythnos y maen nhw wedi’i ganfod yn Afon Gwy.

Cafodd Liam Stubbs, oedd yn gynorthwyydd dysgu yn Ysgol Gyfun Trefynwy, ei weld diwethaf ar Dachwedd 19.

Ar Ionawr 8, cafwyd hyd i gorff yn Afon Gwy ger Cas-gwent, ac mae’r heddlu bellach wedi’i adnabod yn ffurfiol fel Liam Stubbs, 46 oed.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.