Plismyn ar y traeth yn Sousse, Tiwnisia Llun: PA
Mae’r cwest i’r gyflafan lle cafodd 38 o bobol eu saethu’n farw ar draeth yn Tiwnisia yn 2015 wedi clywed bod rhai o swyddogion diogelwch Tiwnisia wedi ‘oedi’n fwriadol’ cyn cyrraedd y safle.

Clywodd y cwest yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain fod ymchwiliad lleol yn Tiwnisia wedi beirniadu rhai o’r swyddogion diogelwch gerllaw am oedi cyn gwneud eu ffordd i safle’r digwyddiad.

Dywedodd y gyfreithwraig Samantha Leek wrth y cwest fod barnwr o Tiwnisia wedi dweud fod “unedau a ddylai fod wedi ymyrryd yn y digwyddiadau wedi arafu’n fwriadol a heb gyfiawnhad cyn cyrraedd y gwesty.”

Cefndir

Mae disgwyl i’r cwest i farwolaethau’r 30 o bobol o wledydd Prydain a gafodd eu lladd ar y traeth ger Sousse ar 26 Mehefin 2015 barhau am saith wythnos.

Yn eu plith roedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon.

Cafwyd munud o dawelwch cyn i’r cwest ddechrau heddiw er cof am y rhai fu farw.

Cafodd y dioddefwyr eu lladd gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui Yacoubi, ger y gwesty pum seren gyda thraeth gerllaw yn y gyrchfan wyliau poblogaidd, Port El Kantaoui.