Barry Bennell Llun: Wikipedia
Mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell wedi gwadu wyth o gyhuddiadau’n ymwneud â cham-drin plant.

Ymddangosodd y gŵr 63 oed drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Caer gan ateb “dieuog” i’r holl gyhuddiadau a gyflwynwyd iddo.

Mae’r cyn-hyfforddwr ar gyfer Crewe Alexandra, Dinas Manceinion a Stoke yn gwadu saith achos o ymosod yn anweddus ar fachgen, ac un achos o fwriadu i gyflawni bwbechni.

Mae honiadau fod y troseddau wedi’u cyflawni rhwng 1981 a 1986 pan oedd y dioddefwr o dan 16 oed.

Mae Barry Bennell wedi’i gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar Fawrth 20.