Trudy Jones o'r Coed Duon Llun: Heddlu De Cymru
Mae disgwyl i’r cwestau i farwolaethau’r 30 o bobol o wledydd Prydain gafodd eu lladd ar draeth yn Tiwnisia yn 2015 ddechrau heddiw.

Ymhlith y rhai gafodd eu lladd ar draeth ger Sousse ar 26 Mehefin 2015 oedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon.

Bydd y gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain, ac mae disgwyl iddynt barhau am tua saith wythnos.

Cafodd y dioddefwyr eu lladd gan ddyn arfog mewn gwesty pum seren gyda thraeth gerllaw yn y gyrchfan wyliau poblogaidd, Port El Kantaoui.

Dywedodd rhai o’r teuluoedd eu bod wedi cael cadarnhad gan y cwmni teithio Thomson ei bod yn ddiogel i deithio i Tiwnisia.

Doedd y cwmni ddim am roi sylw cyn y cwestau gan ddweud nad oedden nhw’n derbyn cywirdeb yr holl ddatganiadau, a’u bod am ddeall yr amgylchiadau a arweiniodd at y gyflafan.