Roedd darlleniad dadleuol o’r Koran mewn eglwys gadeiriol yn Glasgow yn destun “gofid” i Eglwys Esgobol yr Alban.

Cafodd y penillion eu darllen yn Eglwys Gadeiriol Esgobol y Santes Fair ar Ionawr 6 i ddathlu’r Ystwyll.

Ond roedd y darlleniad yn cynnwys penillion am eni’r Iesu, oedd yn amau ei fod yn fab Duw.

Mewn neges ar y we, dywedodd y Parchedicaf David Chillingworth fod yr eglwys wedi ymroi i ddatblygu cysylltiadau aml-ffydd, ac y byddai’n cynnal trafodaethau am y mater.

Cafodd aelodau’r gymuned Foslemaidd wahoddiad i’r gwasanaeth mewn ymgais i ddatblygu’r berthynas rhwng Mwslimiaid a Christnogion.

Ond mae’r darlleniad wedi arwain at negeseuon sarhaus yn cael eu gadael ar y we, ac mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.