Katie Rough (Llun Heddlu North Yorkshire)
Fe fydd merch bymtheg oed sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio’r ferch saith oed Katie Rough yn ymddangos o flaen barnwr heddiw.

Fe ddaethpwyd o hyd i Katie Rough gydag anafiadau difrifol i’w gwddw a’i brest ar lwybr rhyw filltir o’i chartref yn ninas York ddydd Llun. Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Fe arestiwyd y ferch 15 oed ac roedd hi eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon ynghynt yn yr wythnos – oherwydd ei hoed does dim hawl ei henwi.

Fe fydd yn mynd o flaen barnwr yn Llys y Goron Leeds heddiw wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth ac o fod ag arf yn ei meddiant – sef cyllell.

Cyfraniadau

Ers marwolaeth Katie Rough, mae aelodau o’r cyhoedd wedi cyfrannu £16,000 ar wefan godi arian er mwyn helpu’r teulu.

Ac mae dwsinau o flodau a theganau wedi’u gosod ar ffordd gyfagos i’r cae y daethpwyd o hyd i Katie Rough yn ardal Woodthorpe yng Nghaerefrog.