Robert Steven Jones, o Felinheli, sydd ar goll. (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 57 oed sydd ar goll o’r Felinheli ger Caernarfon.

Mae lle i gredu fod Robert Steven Jones, sy’n cael ei adnabod fel Steven, ar goll ers rhai dyddiau.

Mae’r heddlu’n canolbwyntio eu chwilio ar ardal Ynys Lawd, Caergybi lle cafwyd hyd i’w gar wedi’i barcio ddydd Sul (Ionawr 8).

Mae’r heddlu wedi’i ddisgrifio fel gŵr 5’8 o daldra gyda gwallt brown.

Dywedodd yr Arolygydd Jon Aspinall o swyddfa’r heddlu Caernarfon:

“Rwy’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Steven, neu ei gar Peugeot llwyd CX08 PYF yn gynharach ddoe, i gysylltu â’r heddlu.

“Dydy ei deulu na’i ffrindiau ddim wedi bod mewn cysylltiad diweddar ag ef ac rydym yn gynyddol bryderus am ei les.”

Mae’n apelio am bobol i’w ffonio ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 17182.