Mae’r heddlu yng Nghaeredin yn ymchwilio i honiadau bod gan unigolion yn y ddinas gysylltiadau â gwrthryfelwyr Cwrdaidd, a’u bod nhw’n eu hariannu.

Mae’r heddlu’n cynnal sawl ymchwiliad, gan gynnwys un ymchwiliad i honiadau o dwyll a throseddau’n ymwneud â mewnfudwyr.

Mae lle i gredu bod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y PKK, neu Blaid Gweithwyr Cwrdistan, sydd wedi’i lleoli yn Nhwrci ac Irac.

Mae Llywodraeth Prydain yn trin y PKK fel brawychwyr yn dilyn perthynas danllyd â Llywodraeth Twrci dros gyfnod o 30 o flynyddoedd.

Ond mae swyddogion gwrth-frawychiaeth yn yr Alban yn dweud nad oes perygl i’r cyhoedd.

Mae lle i gredu bod Heddlu’r Alban ac Awdurdod Heddlu’r Alban yn cydweithio ar yr ymchwiliad, a bod yr awdurdodau’n ystyried a ddylid erlyn unigolion.