Mae protest wedi’i threfnu yn Swydd Efrog ar ôl i’r heddlu saethu dyn yn farw tra ei fod e’n eistedd yn ei gar.

Cafodd angladd Yassar Yaqub ei gynnal yn Huddersfield brynhawn dydd Gwener.

Cafodd ei saethu gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog nos Lun ar ymyl yr M62, ac fe gafodd dryll ei ddarganfod yn ei gar.

Ond mae ei deulu’n mynnu ei fod e wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon.

Yn dilyn cyfarfod ddydd Iau, mae ‘We Are Bradford’ wedi cyhoeddi y bydd protest yn cael ei chynnal ar Ionawr 20, a hynny yn erbyn “creulondeb yr heddlu”.

Dywedodd Ashiq Hussain wrth y Socialist Worker na ddylai fod wedi cael ei ladd.

“Mae’r heddlu wedi mynd i mewn ac wedi cymryd arnyn nhw eu hunain i fod yn farnwr. Maen nhw wedi saethu er mwyn lladd – pa un yw rhywun yn ddieuog neu’n euog.

“Maen nhw’n dweud na chafodd ei gynllunio ymlaen llaw. Ry’n ni’n ei weld fel dienyddio a gafodd ei drefnu ymlaen llaw.”

Yn ôl yr heddlu, cawson nhw wybod am arfau yn y car, ond mae’r protestwyr yn dweud nad ydyn nhw wedi cynnig cyfiawnhad am ei ladd, ac maen nhw’n awgrymu bod “cymhelliant hiliol” y tu ôl i’w gweithredoedd.

“Doedd dim rhybudd. Dywedodd y crwner fod Yassar wedi’i saethu dair gwaith yn ei frest. Am ei fod e’n Fwslim? Am ei fod e’n ddu? Yn hollol. Roedd hwn yn ddigwyddiad hiliol.”

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Bydd y brotest yn cael ei chynnal ar y diwrnod y bydd protestwyr ar draws y byd yn dangos eu gwrthwynebiad i Donald Trump yn dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.