Y car Peugeot yn y digwyddiad (Llun Heddlu Manceinion)
Mae’r ail ferch fach a gafodd ei tharo gan gar yn Oldham nos Sadwrn bellach wedi marw.

Roedd Zaneta Krokova, 11 oed, yn dal llaw ei chyfnither Helina Kotlarova, 12, pan gawson nhw eu taro gan gar Peugeot 807 tywyll.

Fe gafodd Helina ei lladd yn y fan a’r lle ond roedd Zaneta wedi bod yn brwydro am ei bywyd mewn ysbyty ym Manceinion.

Mae pedwar dyn rhwng 18 a 59 oed yn cael eu holi gan Heddlu Manceinion ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Y car mewn ‘cyflwr gwael’

Doedd y car, sydd yn ôl yr heddlu mewn cyflwr gwael, ddim wedi aros ar ôl y digwyddiad ac fe ddaeth  heddlu o hyd iddo wedi ei adael ar frys beth pellter i ffwrdd.

Mae teulu Helina Kotlarova wedi sôn am yr hyn welson nhw ar ôl rhuthro draw at fan y digwyddiad, tua chanllath o’u cartre’.

Roedd y ddwy gyfnither yn rhan o grŵp mwy ac yn ceisio croesi’r ffordd at y rheiny pan gawson nhw’u taro.