Mae un ddynes wedi cael ei lladd a dau o bobl eraill wedi cael eu hanafu’n ddifrifol mewn cyfres o wrthdrawiadau rhwng tua 20 o gerbydau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiadau tua 8.25 y bore yma ar briffordd yr A40 yn Swydd Rhydychen o ganlyniad i niwl trwchus.

Fe fu’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad tan ganol y prynhawn.

Yn ôl un tyst, roedd y niwl yn ei gwneud yn amhosibl gweld y cerbyd o’u blaen cyn iddyn nhw ei daro.

Mae’r niwl trwchus wedi bod yn gorchuddio maes awyr London City hefyd gan arwain at ganslo llawer o deithiau awyren.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd rhagor o niwl trwchus yn debygol o ddisgyn dros y rhan fwyaf o Loegr ac ardaloedd dwyreiniol Cymru dros nos.