Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn arall y tu allan i glwb dawnsio côl yn Altrincham.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod hyd at 10 o ddynion yn ymladd y tu allan i glwb Totties yn oriau man fore Iau.

Cafwyd hyd i ddyn 31 oed ag anafiadau difrifol i’w ben, a bu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Ddydd Gwener, cafodd Aiden Oakes, 26, ac Anton Oakes, 22, eu harestio, ac fe ymddangoson nhw gerbron ynadon ym Manceinion.

Cawson nhw eu cyhuddo o lofruddiaeth ac o ymosod, a’u cadw yn y ddalfa tan iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Manceinion ar Ragfyr 29.