Bad achub
Mae dynes wedi marw wedi iddi fynd i drafferthion oddi ar arfordir Caint fore Mawrth.

Cafodd bad achub Folkestone a Dungeness eu galw ynghyd a hofrennydd i geisio achub y ddynes 39 oed am tua 7:00 y bore, yn ôl llefarydd o heddlu Caint.

Roedd gwyntoedd cryfion a glaw yn taro’r ardal wrth i’r gwasanaethau brys geisio achub y ddynes.

Bu farw’r ddynes ychydig oriau ar ôl cael ei hachub o’r dŵr, yn ôl heddlu Caint sydd wedi dweud nad ydyn nhw’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi dod o i ddarnau o gar gŵr sydd wedi bod ar goll ers dydd Sul yn y tywydd garw.

Fe wnaeth yr heddlu ailddechrau chwilio am Russell Sherwood, 69 oed, yn afon Ogwr y bore ‘ma ar ôl gorfod rhoi’r gorau i’r chwilio ddoe yn sgil y tywydd.