Mae miloedd o swyddogion carchar wedi rhoi'r gorau i weithio heddiw Llun: PA
Mae miloedd o swyddogion carchar wedi rhoi’r gorau i weithio heddiw mewn protest ynglŷn â phryderon iechyd a diogelwch.

Mae undeb Cymdeithas y Swyddogion Carchar (POA) wedi rhoi cyfarwyddyd i’w aelodau i gymryd rhan yn y brotest heddiw ar ôl i drafodaethau gyda’r Llywodraeth fethu.

Yn ôl Steve Gillan, ysgrifennydd cyffredinol y POA, mae hyd at 10,000 o weithwyr carchardai yn cymryd rhan yn yr hyn sy’n cael ei hystyried fel streic. Fe fyddan nhw’n gweithredu mewn achosion brys yn unig.

Fe ddechreuodd y brotest am hanner nos ac mae’n dilyn cyfres o ddigwyddiadau mewn carchardai yn ddiweddar, gan gynnwys llofruddiaeth honedig, terfysg a dau garcharor yn dianc.

Ond mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud nad oes cyfiawnhad dros y gweithredu diwydiannol gan honni ei fod yn “anghyfreithlon” ac y byddan nhw’n mynd a’r achos i’r llys.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi “cynnal trafodaethau adeiladol gyda’r POA dros y pythefnos diwethaf ac wedi darparu ymateb cynhwysfawr i nifer o bryderon iechyd a diogelwch.”

Ychwanegodd: “Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd 2,500 o staff rheng flaen ychwanegol i helpu i fynd i’r afael a thrais mewn carchardai.”