Fe ddaeth cadarnhad bod pump o bobol wedi’u lladd wedi i dram ddod oddi ar y cledrau yn ne Lloegr heddiw.

Mae mwy na 50 o bobol wedi’u hanafu, rhai’n ddifrifol, wedi i’r tram fynd ar ei hochr ger gorsaf Sandilands yn Croydon, de Llundain, toc wedi 6yb.

“Ar hyn o bryd, gallwn gadarnhau fod pump o bobol wedi marw yn dilyn y digwyddiad,” meddai’r Heddlu Trafnidieth.

Mae gyrrwr y tram wedi’i arestio.