Heddlu De Swydd Efrog dan y lach unwaith eto
Mae teuluoedd 96 o gefnogwyr a gafodd eu lladd yn dilyn trychineb yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield yn 1989 wedi galw ar Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd i beidio â chyfyngu ymchwiliad i helynt Orgreave i adolygiad preifat.

Mae disgwyl cadarnhad ddydd Llun a fydd Llywodraeth Prydain yn cynnal ymchwiliad ar ffurf panel, yn debyg i Hillsborough wrth iddyn nhw fynd ati i ymchwilio i ffrwgwd rhwng yr heddlu a golwyr yn Orgreave yn ne Swydd Efrog yn 1984.

Mae ymgyrchwyr yn honni bod yr heddlu wedi bod yn rhy dreisgar wrth geisio tawelu’r glowyr, a’u bod wedi addasu datganiadau er mwyn rhoi’r bai ar y protestwyr – yn yr un modd ag y gwnaethon nhw adeg trychineb Hillsborough.

Dywedodd teuluoedd Hillsborough ddydd Sul fod cyfyngu ymchwiliad i adolygiad preifat yn annigonol yn yr achos hwn.

Dywedodd cadeirydd criw cefnogwyr HFSG ar ran teuluoedd Hillsborough, Margaret Aspinall: “Byddai defnyddio dull barnwrol dioegl yn hollol annerbyniol gan fod hanes yn dangos yn ein hachos ni mai ei unig ddiben oedd ymestyn y weithred o gelu.

“Byddwn ni’n gwylio’n agos yr hyn sy’n digwydd dros y 24 awr nesaf ac yn galw ar bawb sydd wedi cefnogi ymgyrch Hillsborough i gefnogi ymgyrchwyr Orgreave ar yr adeg hanfodol hon.”

Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Andy Burnham yn cefnogi ymgyrch Orgreave, ac fe alwodd am yr ymchwiliad llawnaf posib i’r digwyddiad.