Yn dilyn adolygiad o derfynau cyflymder ar ffyrdd yn y sir, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dechrau cyflwyno terfynau cyflymder newydd mewn 80 lleoliad gwahanol.

Mae’r newidiadau yn cael eu cyflwyno mewn dau cam. Mae’r cam cynta’, sy’n dod i rym heddiw, yn cynnwys terfynau cyflymder is ger wyth ysgol, tri darn o ffyrdd gwledig ac ardaloedd preswyl o gwmpas Aberystwyth. Bydd terfyn cyflymder ar un ffordd gwledig yn cael ei godi.

Un ffordd lle bydd y terfyn cyflymder yn cael ei leihau o 40mya i 30mya yw Boulevard St Brieuc yn Aberystwyth – rhwng yr orsaf heddlu a chylchfan archfarchnad Morrisons – yn dilyn nifer o ddamweiniau.

Mae’r terfynau cyflymder wedi cael eu newid yn dilyn adolygiad oedd yn defnyddio cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a meini prawf a ddefnyddir gan y Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru.

Nod y newidiadau yw gwneud y ffyrdd yn fwy ddiogel a lleihau y nifer o anafiadau ar ffyrdd o fewn y sir, gan sicrhau bod terfynau cyflymder yn addas ac yn gwneud synnwyr i yrwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams o Gyngor Sir Ceredigion: “Dw i’n falch iawn i weld y newidiadau yma sydd yn ateb nifer o geisiadau trigolion, yn enwedig o gwmpas ysgolion.

“Mae ymchwil yn dangos bod lleihau terfynau cyflymder yn lleihau anafiadau, a dyma pam gofynnais i’r gwaith gael ei flaenoriaethu. Mewn blynyddoedd i ddod, bydd pobl yn fyw ac mewn iechyd da na fyddai oni bai am y newidiadau yma.”