Syr Cliff Richard
Mae Syr Cliff Richard, wedi croesawu adolygiad sy’n barnu fod y penderfyniad i beidio â dwyn cyhuddiadau o ymosodiadau rhywiol yn ei erbyn yn gywir.

Bu’r canwr 75 oed yn rhan o ymchwiliad gan Heddlu De Swydd Efrog i gyhuddiadau gan bedwar dyn rhwng 1958 ac 1983, sef Operation Kaddie.

Ond ym mis Mehefin, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddent yn cyflwyno unrhyw gyhuddiadau troseddol.

Wedi hynny, fe dderbyniwyd ceisiadau i adolygu dau o’r penderfyniadau i beidio ei gyhuddo o dan y cynllun Hawl y Dioddefwyr i Adolygu.

‘Yn falch â’r penderfyniad’

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron:

“Yn unol â’r cynllun, mae cyfreithiwr o Wasanaeth Erlyn y Goron nad oedd yn rhan o’r broses benderfynu wreiddiol wedi cwblhau adolygiad llawn i’r dystiolaeth ac wedi dod i’r casglad fod y penderfyniad i beidio â chyhuddo yn un cywir.”

Mewn ymateb i hyn, dywedodd Syr Cliff Richard: “Fel rydw i wedi dweud o’r blaen, rwy’n ddiniwed, felly’n amlwg rwy’n falch â phenderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw a’r cyflymder wnaethon nhw ddelio ag e. Gobeithio y daw hwn a’r achos i’w derfyn.”

Mae’r canwr wedi sôn yn flaenorol am effaith hyn ar ei iechyd.

Mae’n bwriadu hefyd dwyn achos yn erbyn y BBC a Heddlu De Swydd Efrog ar ôl i gyrch yr heddlu ar ei gartref yn Berkshire yn 2014 gael ei ddarlledu ar deledu byw.