Llun: PA
Mae gyrrwr tacsi, sydd eisoes dan glo, wedi ei gael yn euog o lofruddio dynes arall – bum mlynedd ar ôl iddo lwyddo i osgoi cyhuddiadau yn sgil camgymeriadau gan yr heddlu.

Roedd Christopher Halliwell, 52, wedi’i garcharu am oes am dreisio a llofruddio Sian O’Callaghan, 22, ar ôl iddo ei chipio wrth iddi gerdded adref yn Swindon yn 2011.

Fe’i cafwyd yn euog heddiw o lofruddio’r gweithiwr rhyw Becky Godden, 20, aeth ar goll yn 2003, ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i’r fei.

Ar ôl iddo gyfaddef llofruddio Sian O’Callaghan ac arwain yr heddlu at ei chorff, fe ddywedodd Halliwell  bod “un arall” – gan gyfeirio at gorff arall. Ond fe benderfynodd barnwr yn yr Uchel Lys bod yr Uwch Arolygydd Steve Fulcher wedi torri canllawiau’r heddlu wrth ei gyfweld ac nad oedd modd defnyddio’r dystiolaeth.

Roedd y tad i dri o blant yn gwadu’r cyhuddiad o lofruddio Becky Godden ond fe’i cafwyd yn euog gan y rheithgor ym Mryste.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener a bydd ymchwiliad pellach i ganfod os yw wedi lladd hyd yn oed mwy o ferched.