Mae dyn 84 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn ninas Glasgow.

Fe gafodd y gwasnaethau brys eu galw toc wedi 5yp ddoe, i gyfeiriad yn ardal Partick. Fe ddaethon nhw o hyd i gorff dyn y tu mewn i’r tŷ.

Mae dynes 83 blwydd oed, a oedd hefyd y tu fewn i’r tŷ, wedi’i chludo i Ysbyty Prifysgol y Frenhines Elizabeth, ac mae’n cael ei thrin am effeithiau anadlu mwg.

Mae ymchwiliad ar y cyd ar y gweill rhwng yr heddlu a’r gwasanaeth tân er mwyn ceisio datganfod beth achosodd y tân.