Thomas Jackson, Llun: YouCaring/PA Wire
Mae dyn o wledydd Prydain a gafodd ei anafu’n ddifrifol wrth geisio achub dynes yn ystod ymosodiad gan ddyn arfog yn Awstralia, wedi marw, meddai’r heddlu.

Roedd Thomas Jackson, 30, wedi ceisio helpu Mia Ayliffe-Chung, 21, wrth iddi gael ei thrywanu mewn hostel yn Queensland yr wythnos diwethaf.

Fe gadarnhaodd heddlu Queensland heddiw bod Thomas Jackson wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad ar Awst 23.

Dywedodd y llefarydd bod eu hymchwiliad yn parhau ond fe fydd dyn 29 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio bellach yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth pan fydd yn mynd gerbron ynadon ar Hydref 28.

Dywedodd tad Thomas Jackson, Les Jackson, bod y teulu wedi tristau yn ofnadwy. “Mae ein hannwyl Tom wedi ein gadael ac mae’r byd yn lle tlotach hebddo. Diolch i bawb am eu cariad a’u cefnogaeth yn ystod y dyddiau diwethaf.”

Fe wnaeth ei sylwadau ar dudalen YouCaring sydd wedi cael ei sefydlu er mwyn helpu’r teulu.

Honnir bod Smail Ayad, o Ffrainc, wedi trywanu Mia Ayliffe-Chung ac wedi anafu Thomas Jackson, gan arwain at ei farwolaeth, yn hostel Shelley’s Backpackers yn Home Hill, yn ogystal ag anafu 12 swyddog yr heddlu.

Roedd Thomas Jackson wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben wrth iddo geisio ymyrryd yn yr ymosodiad ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel “arwr”.