Ffoaduriaid ym Mor y Canoldir Llun: PA
Mae Achub y Plant wedi cyhoeddi y bydd yn lansio llong chwilio ac achub newydd ym Môr y Canoldir.

Bydd y llong newydd, sydd â’r cyfleusterau i achub tua 300 o bobl ar y tro, yn weithredol o fis Medi ac mae’r elusen hefyd wedi lansio ymgyrch newydd er mwyn ariannu’r llong dros y 15 mis nesaf.

Meddai Achub y Plant fod yr elusen wedi bod yn gweithio mewn porthladdoedd yn yr Eidal am fwy nag wyth mlynedd, gan helpu i amddiffyn plant pan fyddant yn cyrraedd ar y tir.

Byddant nawr yn gweithio gyda Gwylwyr y Glannau yn yr Eidal sy’n cydlynu holl weithrediadau chwilio ac achub ar y môr yn yr ardal honno.

Yn ôl yr elusen mae nifer y plant sy’n croesi Môr y Canoldir o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd wedi codi mwy na dwy ran o dair.

Mae mwy na 3,000 o bobl wedi boddi ym Môr y Canoldir yn barod eleni –  40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2015.

‘Hawl i fod yn ddiogel’

Dywedodd Tanya Steele o elusen Achub y Plant: “Yn gyntaf ac yn bennaf, mae plant yn blant. Beth bynnag y maent yn ffoi oddi wrtho, mae ganddynt yr hawl i fod yn ddiogel. Mae gennym ddyletswydd i amddiffyn plant a’u teuluoedd, boed yma yn Ewrop neu yn ystod eu taith beryglus.

“Rydym wedi cymryd y penderfyniad hwn i ymyrryd ar y môr oherwydd ein bod yn argyhoeddedig y bydd ein menter, er gwaethaf y gwaith rhyfeddol a wnaed eisoes gan yr awdurdodau yn ogystal ag asiantaethau cymorth, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i weithrediadau chwilio ac achub er mwyn achub bywydau.

“Ond mae arnom angen cynllun tymor hir i fynd i’r afael ag achosion mudo anniogel gan gynnwys gwrthdaro, tlodi eithafol, cam-drin hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd.

“Byddai mwy o fuddsoddiad mewn swyddi ac addysg yn y gwledydd ble mae’r bobl hyn yn dod, neu’n pasio drwyddyn nhw, yn gwneud gwahaniaeth mawr i wneud bywyd yn y lleoedd hynny yn fwy goddefadwy ac yn darparu dewis arall, credadwy i fudo peryglus.”