Mckayla Bruynius, gyda'i thad Rudy, Llun: PA
Mae merch dwy oed a gollodd ei thad yn dilyn damwain ar draeth yng Nghernyw wedi marw.

Cafodd Mckayla Bruynius ei thynnu i’r môr gan don fawr ar draeth Newquay ddydd Gwener diwethaf, a chafodd ei chludo i’r Ysbyty Plant ym Mryste.

Bu farw ei thad, Rudy yn dilyn y digwyddiad.

Roedden nhw ymhlith chwech o bobol fu farw ar yr arfordir dros y penwythnos.

Mewn datganiad, mae Lisinda Bruynius wedi talu teyrnged i’w gŵr a’i merch fach.

Dywedodd: “Roedd Rudy yn ŵr, tad a ffrind cariadus, gofalgar a chefnogol.

“Roedd ganddo fe synnwyr digrifwch gwych ac roedd e’n berson gweithgar. Roedd e bob amser yn rhoi pobol eraill o’i flaen ei hun. Roedd Mckayla yn brysur a bob amser yn hapus.”

Dywedodd ei bod yn teimlo “anghrediniaeth” a’i bod hi wedi cael “sioc” pa mor gyflym roedd cyflwr y môr wedi newid.

Diolchodd i wylwyr y glannau, staff yn yr ysbyty yng Nghernyw a Bryste, y gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd.

Cafodd hithau hefyd ei hachub o’r môr, a chafodd dau fab y cwpl fan anafiadau.

Roedd y teulu o Croydon ger Llundain ar eu gwyliau.

Dywedodd yr heddlu bod y crwner wedi cael gwybod.

Mae tudalen a gafodd ei sefydlu er cof am y teulu eisoes wedi codi dros £30,000.