Gwn Taser Llun: PA
Mae crwner wedi clywed bod meddygon wedi ceisio am 35 munud i achub y cyn-bêl droediwr Dalian Atkinson ar ôl i’r heddlu ei saethu â gwn Taser.

Cafodd yr heddlu eu galw i gartref tad cyn-ymosodwr Aston Villa yn dilyn adroddiadau am ffrae.

Cafodd Atkinson, 48, ei saethu gan yr heddlu yn y stryd yn oriau man y bore ar ôl dod allan o’r tŷ yn Telford.

Cafodd parafeddygon eu galw gan yr heddlu, ac fe fuon nhw’n ceisio achub ei fywyd am gryn amser drwy geisio CPR.

Ar ddechrau’r cwest i’w farwolaeth, dywedodd swyddog y crwner fod yr heddlu wedi’u galw oherwydd “adroddiad am bryder yn ymwneud â diogelwch”.

Wrth geisio nodi achos ei farwolaeth, dywedodd adroddiad y crwner fod angen ymchwiliad pellach.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i’w farwolaeth, ac mae dau blismon wedi cael eu diarddel o’u gwaith dros dro tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal. Maen nhw’n wynebu cael eu cosbi am gamymddwyn difrifol.

Bydd y cwest yn parhau ar Dachwedd 22, pan fydd yr ymchwiliad wedi cael ei gwblhau.