Yr olygfa ddydd Mercher diwetha', Awst 10
Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod y gwaith o glirio’r hofrennydd aeth ar dân yn Eryri’r wythnos diwethaf wedi dechrau heddiw.

Bu’n rhaid i un o hofrenyddion yr Awyrlu lanio ar frys ar yr Aran ddydd Mawrth diwethaf (Awst 9) oherwydd problem dechnegol.

Llwyddodd pum person i ddod allan o’r hofrennydd cyn iddi fynd ar dân, gyda’r mwg oedd yn codi o lethrau’r Wyddfa i’w weld am filltiroedd.

Yn ogystal, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am achos y broblem dechnegol.

Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, does dim modd gwybod faint o ddifrod sydd wedi’i wneud i’r mynydd tan y bydd yr ymchwiliad hwnnw wedi’i gwblhau.