Mae dyn wedi marw wedi iddo fynd i drafferthion tra’n nofio ar draeth Porthcressa, Ynysoedd Syllan.

Fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw toc cyn 6 o’r gloch nos Sadwrn, pan ddaeth hi’n glir fod dyn wedi’i dynnu o’r tonnau.

Fe gafodd yr ardal gyfan ei chwilio wedyn, rhag ofn bod nofwyr eraill yno, ond daethpwyd i’r casgliad mai nofio ar ei ben ei hun yr oedd o.

Er pob ymdrech i roi triniaeth iddo, bu farw’r dyn – a oedd yn ei 50au ac yn dod o ynys Santes Fair – ar y traeth.