Nigel Farage Llun: PA
Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno cwyn i’r heddlu yn erbyn cyn-arweinydd UKIP Nigel Farage ac ymgyrch Leave.EU yn ystod y refferendwm.

Mae’r ymgyrchwyr yn honni bod yr ymgyrch wedi “annog casineb hiliol a chrefyddol” yn y DU ac mae’r gŵyn wedi cael cefnogaeth bron i 40,000 o enwau ar ddeiseb ar-lein.

Zack Newman ddechreuodd y ddeiseb mewn ymateb i boster dadleuol ‘Breaking Point’ – a oedd yn dangos cannoedd o ffoaduriaid yn cerdded drwy gefn gwlad Ewrop – gafodd ei ddatgelu gan Nigel Farage yn ystod yr ymgyrch refferendwm.

Mae’r gŵyn a gafodd ei gwneud mewn swyddfa’r heddlu yng ngogledd Llundain heddiw yn gofyn i’r heddlu ymchwilio i weld os oedd y sylwadau a wnaed gan Nigel Farage ac eraill oedd yn rhan o ymgyrch Leave.EU wedi ei gynllwynio yn bwrpasol i ysgogi anoddefgarwch o fewnfudwyr er mwyn ennill pleidleisiau.

Mae ymgyrchwyr yn honni bod y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd ar ôl y bleidlais ar 23 Mehefin yn “ganlyniad uniongyrchol” o rethreg yr ymgyrch i adael yr UE.

Maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at ddogfen a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol sy’n cynghori ei bod yn drosedd o dan y Ddeddf Drefn Gyhoeddus 1968 i gyhoeddi neu ddosbarthu deunydd a fwriedir neu sy’n debygol o ysgogi casineb hiliol.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP bod yr ymgyrch yn erbyn eu cyn-arweinydd a Leave.EU yn ymdrech i dawelu rhyddid barn.