Tafarn y Mulberry Bush, Birmingham, ar ol i fom ffrwydro yno yn 1974, Llun: PA
Fe fydd cwestau newydd yn cael eu cynnal i farwolaethau 21 o bobl fu farw ar ôl i ddau fom ffrwydro mewn dwy dafarn ym Mirmingham yn 1974.

Daw’r penderfyniad yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan deuluoedd y rhai fu farw.

Fe wnaeth crwner Birmingham a Solihull Louise Hunt gyhoeddi’r penderfyniad yn dilyn nifer o wrandawiadau ac ar ôl i “wybodaeth newydd sylweddol” ddod i law ynglŷn â’r digwyddiad ar 21 Tachwedd, 1974.

Yn ystod y gwrandawiadau fe fu teuluoedd rhai o’r bobl gafodd eu lladd yn cyflwyno’u hachos dros gynnal cwestau newydd, gan honni bod gwasanaethau diogelwch Prydain yn gwybod am yr ymosodiadau cyn iddyn nhw gael eu cynnal.

‘Dau rybudd posib’

Wrth gyflwyno ei rhesymau dros y penderfyniad heddiw dywedodd Louise Hunt bod yna dystiolaeth bod Heddlu’r West Midlands wedi methu dau rybudd posib am yr ymosodiadau, gan gynnwys sylw a wnaed gan ddynion oedd a chysylltiadau a’r IRA y byddai “Birmingham yn cael ei tharo wythnos nesaf”.

Roedd yr heddlu wedi derbyn adroddiad am y sylwadau hynny ar Dachwedd 10 1974 ond dyweodd Louise Hunt nad oedd “arwydd bod yr heddlu wedi cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i hynny.”

Ar ddiwrnod yr ymosodiad fe fethodd yr heddlu a gweithredu yn dilyn ail rybudd, meddai.

Am y rhesymau hynny meddai “mae digon o reswm i ail-ddechrau cwest i ymchwilio i amgylchiadau’r marwolaethau yma.”

Cefndir

Bu farw 21 o bobl ar ôl i fom ffrwydro yn nhafarn y Mulberry Bush yn y ddinas, ac ychydig funudau’n ddiweddarach, fe ffrwydrodd ail fom yn nhafarn y Tavern in the Town ar 21 Tachwedd, 1974.

Cafodd 182 o bobl eu hanafu a’r gred yw mai’r IRA oedd yn gyfrifol.

Roedd trydydd bom mewn bag yn Edgbaston, Birmingham wedi ffrwydro’n rhannol.

Fe arweiniodd ymchwiliad gwallus gan Heddlu West Midlands at garcharu Chwech Birmingham ar gam.

Fe gawson nhw eu rhyddhau yn 1991 gan y Llys Apêl.