Mae disgwyl i grwner benderfynu heddiw a ddylid ail-ddechrau cwestau i farwolaethau 21 o bobl fu farw pan ffrwydrodd dau fom mewn dwy dafarn ym Mirmingham yn 1974, yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan deuluoedd.

Fe fydd Louise Hunt, crwner dinas Birmingham a Solihull, yn rhoi ei dyfarniad mewn cysylltiad â’r ddau ddigwyddiad, ar ôl cynnal nifer o wrandawiadau.

Yn ystod y gwrandawiadau hynny fe fu teuluoedd rhai o’r bobl gafodd eu lladd yn cyflwyno’u hachos dros gynnal cwestau newydd, gan honni bod gwasanaethau diogelwch Prydain yn gwybod am yr ymosodiadau cyn iddyn nhw gael eu cynnal.

Bomio dwy dafarn

Bu farw 21 o bobl ar ôl i fom ffrwydro yn nhafarn y Mulberry Bush yn y ddinas, ac ychydig funudau’n ddiweddarach, fe ffrwydrodd ail fom yn nhafarn y Tavern in the Town ar 21 Tachwedd, 1974.

Cafodd 182 o bobl eu hanafu a’r gred yw mai’r IRA oedd yn gyfrifol.

Roedd trydydd bom mewn bag yn Edgbaston, Birmingham wedi ffrwydro’n rhannol.

Fe arweiniodd ymchwiliad gwallus gan Heddlu West Midlands at garcharu Chwech Birmingham ar gam.

Fe gawson nhw eu rhyddhau yn 1991 gan y Llys Apêl.

Yn y 70au cafodd gwrandawiadau eu cynnal ar ôl yr ymosodiadau ond cafodd y cwestau eu gohirio oherwydd y broses droseddol ac nid oeddan nhw wedi ail-ddechrau.

Fe ddechreuodd y gwrandawiadau newydd ym mis Chwefror eleni, gyda pherthnasau’r rhai fu farw a bargyfreithwyr ar ran Gwasanaeth Ambiwlans West Midlands, Ffederasiwn yr Heddlu a Heddlu West Midlands yn bresennol.

Yn ystod y gwrandawiad ym mis Mai, dywedodd y crwner Louise Hunt ei bod wedi derbyn gwybodaeth newydd “sylweddol”.

Mae disgwyl iddi gyhoeddi heddiw a fydd yn ail-ddechrau’r cwestau.