Logo Budget Pets
Fe allai pobol gael eu lladd petaen nhw’n cymryd cyffuriau anifeiliaid sydd wedi eu dwyn o Abertyleri,  meddai’r heddlu.

Maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth ar ôl i werth £10,000 o’r cyffuriau gael eu dwyn o filfeddygfa Budget Vets yn y dre’ yng Nghymoedd y Dwyrain.

Mae’r cyffuriau’n cynnwys Ketamine, Pentoject a Buprenorphine ac, yn ôl yr heddlu, maen nhw’n beryglus iawn. Roedd rhai ar fin cael eu dychwelyd at eu gwneuthurwyr.

Lladd

“Gall y cyffuriau hyn ladd pobol ac rydym yn rhybuddio unrhyw un sy’n dod ar eu traws, os byddan nhw’n cael eu cymryd, gallan nhw roi eich bywyd mewn perygl,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent, Gareth Hall.

Dywedodd rheolwr y filfeddygfa, Leanne Fieldhouse, ei bod yn “bryderus iawn” am y defnydd posib o’r cyffuriau.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth eu ffonio ar 101 yn syth, gan ddyfynnu’r cyfeirnod, 73 26/05/15.