Llun: PA
Mae awyren oedd yn teithio rhwng Paris a Cairo wedi bod mewn damwain ym Mor y Canoldir ar ol iddi fynd oddi ar y radar gyda 66 o bobl ar ei bwrdd, meddai EgyptAir.

Ymhlith y teithwyr ar yr awyren mae Prydeiniwr ynghyd a 30 o bobl o’r Aifft, 15 o Ffrainc, a rhai o Algeria, Swdan, Chad, Portiwgal, Canada, Kuwait, a Sawdi Arabia.

Roedd yr awyren yng ngofod awyr yr Aifft pan ddiflannodd tua 2.30yb (amser Cairo) ar ôl gadael maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis dair awr yn gynharach.

Mae lluoedd arfog yr Aifft yn paratoi ar gyfer unrhyw ymdrechion achub ac mae awdurdodau Gwlad Groeg hefyd wedi ymuno yn y chwilio am yr awyren.

Roedd 56 o deithwyr ar fwrdd awyren MS804 gan gynnwys plentyn a dau fabi, ynghyd a thri swyddog diogelwch EgyptAir a saith aelod o’r criw.

Yn ôl adroddiadau, nid oedd y peilot wedi gwneud galwad brys cyn i’r awyren ddiflannu yn gynnar fore Iau.

Mae rhai o deuluoedd y teithwyr oedd ar yr awyren wedi dechrau cyrraedd safle ger maes awyr Cairo ac mae EgyptAir yn anfon meddygon a chyfieithwyr yno.

Mae’r cwmni awyrennau wedi sefydlu llinell ffon arbennig ar gyfer teuluoedd sy’n bryderus am anwyliaid. Y rhif yw + 202 25989320 i bobl sy’n ffonio y tu allan i’r Aifft.