David Crompton, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog
Mae Prif Gwnstabl dros dro newydd Heddlu De Swydd Efrog wedi dweud ei fod yn “addo gwrando” ar deuluoedd y rhai a fu farw yn nhrychineb Hillsborough.

Daw cyhoeddiad Dave Jones wrth iddo ddechrau ar ei waith gyda’r llu wedi i’r cyn-Brif Gwnstabl, David Crompton, gael ei ddiarddel o’i waith yr wythnos diwethaf yn dilyn rheithfarn cwest trychineb Hillsborough.

Yn y cyfamser, fe gafodd Dawn Copley ei phenodi’n Brif Gwnstabl i Heddlu De Efrog, ond bu’n rhaid iddi gamu o’r neilltu ar ôl diwrnod yn unig wrth y llyw am ei bod yn destun ymchwiliad gan ei chyn-gyflogwr.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Swydd Efrog, Alan Billings, ei fod wedi trafod a chael cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Cartref ,Theresa May, cyn penodi Dave Jones i’r swydd dros dro.

‘Cyfnod anodd’

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd Dave Jones ei fod yn bwriadu cynnal adolygiad sylfaenol o waith llu Heddlu De Swydd Efrog.

Dywedodd ei fod am ymgysylltu â theuluoedd Hillsborough ynghyd â delio â’r cwestiynau sy’n dal i gael eu gofyn am sut wnaeth yr heddlu ddelio â streic y glowyr yn yr 1980au.

“Does dim dwywaith fod hwn yn gyfnod anodd i Heddlu De Swydd Efrog fel sefydliad a hefyd i’r cymunedau y mae’n gwasanaethu yn lleol a’r tu hwnt,” meddai Dave Jones.

‘Cythryblus’

Mae’r llu hefyd wedi wynebu cyfres o sgandalau’n ddiweddar, gan gynnwys yr helynt am ecsbloetio  plant yn rhywiol yn Rotherham.

Mae honiadau hefyd fod y llu wedi bod yn “ansensitif” wrth ddelio ag ymchwiliad yng nghartref y canwr, Cliff Richard.

Ychwanegodd Alan Billings, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, “Mae’r wythnos diwethaf wedi bod yn gythryblus i Heddlu De Efrog, a dw i’n ymwybodol o’r gofid ymysg cymunedau De Swydd Efrog ynghyd â staff a swyddogion yr heddlu.

“Bydda i’n gweithio’n agos gyda’r llu i geisio sicrhau sefydlogrwydd mor fuan â phosib.”