Mae cyfreithwyr ar ran teuluoedd y 96 o bobl fu farw yn nhrychineb Hillsborough wedi cadarnhau y byddan nhw’n dwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr heddlu am geisio rhoi’r bai ar y cefnogwyr.

Dywedodd Saunders Law, cwmni cyfreithiol o Lundain, fod cannoedd o bobol o’r Grŵp Cymorth i deuluoedd Hillsborough yn bwriadu dechrau achos cyfreithiol yn erbyn Heddlu De Swydd Efrog a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mewn datganiad gan y cwmni, dywed bod y teuluoedd yn credu y bydd cyfiawnder dim ond yn dod “drwy atebolrwydd”.

Yn 2012, fe wnaeth yr adroddiad annibynnol i’r trychineb yn 1989 ddangos bod 116 o ddatganiadau tystion wedi cael eu ffugio i wneud i’r heddlu edrych yn well.

Cafodd honiadau’r teuluoedd eu cyflwyno’r llynedd ond cawson nhw eu gwahardd rhag eu cyhoeddi tan i’r cwest ddod i ben.

‘Rhoi’r bai ar y cefnogwyr’

“Mae’r honiadau mewn perthynas â’r gweithredoedd a gafodd eu gwneud i roi’r bai ar y rhai fu farw a chefnogwyr Clwb Pêl Droed Lerpwl am y trychineb, lle nad oes cyfaddefiad nac ymddiheuriad wedi bod,” meddai’r datganiad gan y cyfreithwyr.

“Er gwaethaf cyffes ddifater yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Annibynnol Hillsborough, rydym bellach yn gweld bod Heddlu De Swydd Efrog wedi gwario tua £19m o arian y trethdalwyr ar amddiffyn eu hunain yn y cwest.”

Dywedodd y datganiad hefyd fod tystiolaeth fod yr heddlu wedi “dweud celwyddau, ffugio tystiolaeth, rhoi pwysau ar dystion a chelu’r gwir”.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos y gamdriniaeth ar raddfa ddiwydiannol gan Heddlu De Swydd Efrog a Gorllewin Canolbarth Lloegr.”

Mae’r cyfreithwyr yn gobeithio gweithio gyda Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ac Ymgyrch ‘Resolve’, sy’n cynnal ymchwiliad troseddol, i benderfynu a ddylai unigolyn neu sefydliad gael eu herlyn.