Rolf Harris
Mae’r diddanwr Rolf Harris wedi pledio’n ddieuog i saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Roedd yr artist 86 oed wedi cyflwyno ei ble yn Llys y Goron Southwark bore ma.

Mae’n wynebu saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferched ifanc a menywod sy’n dyddio nôl i’r 1970au cynnar.

Roedd rhai o’r troseddau honedig wedi’u cyflawni yng nghanolfan y BBC yn Wood Lane yn Llundain.